ar log - daw dydd y bydd mawr y rhai bychain lyrics
mewn breuddwyd un noson fe welais
ddau ddyn oedd yn sefyll ynghyd
mor debyg yr oeddynt mewn golwg ill dau
ond o mor wahanol eu byd
roedd un, roedd hi’n amlwg yn bwysig
iddo ef roedd pob olwyn yn troi
ond y llall mor ddi+nod doedd ganddo ddim
ond enaid a chalon i’w rhoi
daw dydd y bydd mawr y rhai bychain
daw dydd ni bydd mwy y rhai mawr
cyfiawnder a ddaw gydag amser
i chwalu teyrnasoedd y llawr
yn aros i ateb yr alwad
roedd cenhedloedd a gwledydd y byd
rhai yn ymffrostio mewn mawredd a bri
ac eraill yn gaeth ac yn fud
ond tu ôl i’r holl gyfoeth a’r balchder
roedd pobloedd, roedd ieithoedd dan draed
ac yn llys y gwirionedd ni chafwyd lle
i’r mawredd enillwyd drwy waеd
daw dydd y bydd mawr y rhai bychain
daw dydd ni bydd mwy y rhai mawr
cyfiawnder a ddaw gydag amser
i chwalu teyrnasoеdd y llawr
rhwng rhesi o blismyn mewn lifrau
gwelais farnwr a’i rwysg oedd mor fawr
yn dweud nad cyfiawnder sy’n rheoli mewn llys
ac mai deddfau yw’r duwiau yn awr
o myfi, medde fe, sydd yn barnu
cynnal cyfraith y sais yw fy mryd
dyw eich iaith a’i hawliau yn cyfri dim
rwy’n eich cael chi yn euog i gyd
daw dydd y bydd mawr y rhai bychain
daw dydd ni bydd mwy y rhai mawr
cyfiawnder a ddaw gydag amser
i chwalu teyrnasoedd y llawr
cyfiawnder a ddaw ymhen amser
i chwalu teyrnasoedd y llawr
Random Lyrics
- fafaq, dj kuba & neitan - spread love lyrics
- siklomalib - dugo ng panahon lyrics
- jeff jim - nothing short of a miracle lyrics
- david t lomax - adrenaline high lyrics
- patrick stump & disney jr. - it's jeff lyrics
- bmsk & 5mewmet - мировая война (world war) lyrics
- mastruz com leite - dodói / meu dengo / não se avexe não lyrics
- lo worship - kaylea's story: joy comes in the morning (live) lyrics
- the soul superbs - just ask me lyrics
- narkots - backtoback lyrics