azlyrics.biz
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

ar log - llongau caernarfon lyrics

Loading...

mae’r holl longau wrth y cei yn llwytho
pam na cha’i fynd fel pawb i forio?
dacw dair yn dechre warpio, ac am hwylio heno
i birkinhead, bordeaux a wicklow

toc daw’r stemar bach i’w towio
golau gwyrdd ar waliau wrth fynd heibio

pedair llong wrth angor yn yr afon
aros teid cyn fynd tan gastell c’narfon
dacw bedwar golau melyn, a rhyw gwch ar gychwyn
clywed sŵn y rhwyfau wedyn

toc daw’r stemar back i’w towio
golau coch ar waliau wrth fynd heibio

holaf ym mhob llong ar hyd yr harbwr
oes ‘na le i hogyn fynd yn llongwr
a chael spleinsio rhaff a rhiffio, a chael dysgu llywio
a chael mynd mewn cwch i sgwlio

pam na cha’i fynd ar f’union
dros y môr a hwylio nôl i g’narfon?
pam na cha’i fynd yn llongwr
a’r holl longau’n llwytho yn yr harbwr?



Random Lyrics

HOT LYRICS

Loading...