ar log - telynor ifanc llangwm lyrics
roedd aelwyd llwyncwpwl yn gyrchfan o fri
a nansi a dafydd yn cynnal y sbri
ond gwŷs yr hen gyrnol oedd diwedd y gân
a nawr ‘does dim telyn wrth ymyl y tân
roedd dafydd yn marw mewn dieithr wlad
tra dod i’w ystafell wnâi gorllef y gad
wrth rodio’n derfysglyd ar ffiniau’r ddau fyd
fe dybiai’i fod adref yn sŵn nant y pyd
roedd aelwyd llwyncwpwl yn gyrchfan o fri
a nansi a dafydd yn cynnal y sbri
ond gwŷs yr hen gyrnol oedd diwedd y gân
a nawr ‘does dim telyn wrth ymyl y tân
fe deimlai dros aeddren yr awel yn fwyn
a chwmni’i rieni dan gysgod y llwyn
tra’r ferch a’i gweinyddai yn troi ei threm draw
rhag dangos ei deigryn wrth gydio’n ei law
roedd aelwyd llwyncwpwl yn gyrchfan o fri
a nansi a dafydd yn cynnal y sbri
ond gwŷs yr hen gyrnol oedd diwedd y gân
a nawr ‘does dim telyn wrth ymyl y tân
sibrydai, “fy nhelyn, pa le y mae hi?
fy chwaer, tyrd ac estyn fy nhelyn i mi”
gollyngodd ochenaid, ymgrymodd ei ben
a thelyn oedd ganddo tu arall i’r llen
ac roedd aelwyd llwyncwpwl yn gyrchfan o fri
a nansi a dafydd yn cynnal y sbri
er gwaetha’r hen gyrnol, a’r ffosydd yn ffrainc
clywn heddiw sawl aelwyd yn atsain y gainc
er gwaetha’r hen gyrnol, a’r ffosydd yn ffrainc
clywn heddiw sawl aelwyd yn atsain y gainc
Random Lyrics
- mc skywell - hell comes hot lyrics
- hypnoticsmiley - onde di pace lyrics
- don trip - remember raheem lyrics
- rappa - suflet de ultras lyrics
- unscathed - pain of a rare circumstance lyrics
- 99 posse - 87 ore lyrics
- croosh - water lyrics
- fortuna fugaz guatemala - ecthelion lyrics
- s3lfpain - новый год! lyrics
- donato (deu) - kein effekt lyrics