ar log - wrth y ffynnon lyrics
Loading...
ar y ffordd wrth fynd i’r ffynnon
gwelais ferch a’i phiser dŵr
pan y’m gwelodd, lanc yn gwenu
“hwn,” medd hi, “yw’m darpar ŵr.”
glas ei llygaid fel y cefnfor
du ei gwallt fel caddug nos
ac fel rhosyn gwyllt mehefin
ydoedd lliw ei dwyrydd goch
ar y ffordd wrth fynd i’r ffynnon
cwrddyd wnaethom dro’r ôl hyn
rhoddais iddi serch fy nghalon
cydiodd hithau ynddo’n dyn
sôn am allor, sôn am briodas
sôn am ddau yn newid byd
syllu ‘lawr i ddrych y ffynnon
gweld dyfodol gwyn i gyd
ar y ffordd wrth fynd i’r ffynnon
gwelais hi yr olaf dro
fe ddaeth gwŷs y gâd i minnau
gŵys i fynd o’m hannwyl fro
ffarwel gariad, ffarwel gariad
cyn bo hir dof eto’n ôl
ond ni welais i mo’r eneth
wrth y ffynnon ar y ddôl
Random Lyrics
- chacky - я только начал (i just started) lyrics
- meat computer - still rare lyrics
- wildkarduno - low lyrics
- anna grey - doktor doktor lyrics
- yung memories - lost soul lyrics
- coma.tos3 - f!ck it lyrics
- e.r. - schnee lyrics
- lenzy & bawer - herz klopft lyrics
- lil godd - watch lyrics
- s1ninja - lovesong.mp3 lyrics