ar log - yr hen dderwen ddu lyrics
[pennill 1]
a minnau’n mynd un bore
yn gynnar tua’r ffair
fe gwrddais eneth ifanc
a’i gwallt yn donnau aur
yr eneth ger caerfyrddin
a’i llais fel llais y lli
arhosais i am ennyd fach
i sgwrsio gyda hi
[cytgan]
y ferch mewn brethyn cartref tyrd i eistedd gyda mi
a dweda’ iti’r stori am yr hen hen dderwen ddu
[pennill 2]
a ni ar gwr caerfyrddin
edrychodd arna ‘i’n flin
wrth fy ngweld yn codi ‘nghap
i bwt o goeden grin
ond dwedais wrthi’r hanes
pe gwympai’r goeden hon
yn ôl yr hen chwedloniaeth
âi’r dref o dan y don
[cytgan]
y ferch mewn brethyn cartref tyrd i eistedd gyda mi
a dweda’ iti’r stori am yr hen hen dderwen ddu
[pennill 3]
a dyma hi yn chwerthin
a’m gwneud i deimlo’n ffôl
fod crwt fel fi yn credu
hen stori oesau’n ôl
ond roedd ei llais yn heintus
ei gruddiau hi mor llon
fe deimlais i ryw chwithdod
a chyffro yn fy mron
[cytgan]
y ferch mewn brethyn cartref tyrd i eistedd gyda mi
a dweda’ iti’r stori am yr hen hen dderwen ddu
[pennill 4]
a nawr rwyf ar fy aelwyd
a’m cymar gyda mi
yr eneth gynt a gwrddais
gerbron y dderwen ddu
fy nheulu sydd yn gyflawn
a bywyd sydd yn win
am imi godi ‘nghap un dydd
i bwt o goeden grin
[cytgan]
y ferch mewn brethyn cartref tyrd i eistedd gyda mi
a dweda’ iti’r stori am yr hen hen dderwen ddu
[cytgan]
y ferch mewn brethyn cartref tyrd i eistedd gyda mi
a dweda’ iti’r stori am yr hen hen dderwen ddu
Random Lyrics
- babymaru - sh1ne lyrics
- no comply - crackpot lyrics
- thin lizzy - the sun goes down (demo) lyrics
- ssj daki - no problem! lyrics
- maxim hristozov - bad child lyrics
- whitedressesss - indaclub lyrics
- наблюдаттель (nabludattel) - моя мечта (my dream) lyrics
- scotch (ita) - caribbean lady lyrics
- ludmilla, latto & emilia - bota lyrics
- jenna doe - not your boyfriend lyrics