azlyrics.biz
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

bwncath - castell ni lyrics

Loading...

yma mae ‘nghalon yn curo
ac yma ‘dw i’n troedio y stryd
dyma fy lle
yma’n y dre’
dyma ganol fy myd

yma ma’n ffrindiau a’n nheulu
a ninnau’n un teulu i gyd
dyma fy llef
i bawb yn y dref;
dewch i ganu ynghyd

mae ‘nghalon yng nghanol caernarfon
hon yw dinas fy myd
ei hiaith yn llifo fel afon
rhwng ei muriau o hyd

ac ambell i dro fydda’ i’n cofio
am boen yr holl frwydro a fu
ond dysgu a wnawn
defnyddiwn ein dawn
i ailgynnau ein ffydd

ac yna fe godwn ein tyrrau
agorwn ein drysau i’r byd
mae croeso’n y dre
i bawb o bob lle
dewch i ganu ynghyd
‘dw i am aros, aros yn driw iddi hi
adeiladwn ei thyrrau o’r llawr
yn awr yn gastell i ni

mae ‘nghalon yng nghanol caernarfon
hon yw dinas fy myd
ei hiaith, yn llifo fel afon
rhwng ei muriau o hyd
o caraf, mi garaf caernarfon
o mor werthfawr yw hi
mor glir â dŵr yr afon
ydy hynny i mi

‘dw i am aros, aros yn driw iddi hi
adeiladwn ei thyrrau o’r llawr
yn awr yn gastell i ni

mae ‘nghalon yng nghanol caernarfon
hon yw dinas fy myd
ei hiaith, yn llifo fel afon
rhwng ei muriau o hyd
o caraf, mi garaf caеrnarfon
o mor werthfawr yw hi
mor glir â dŵr yr afon
ydy hynny i mi



Random Lyrics

HOT LYRICS

Loading...