
bwncath - prydwen lyrics
mr. heddwas, mae ‘na gysgod drwy y tŷ
tyrd â’th dortsh i mewn i’n goleuo ni
a ‘dwi’n gwybod bod ‘na wydr ar y stryd
ti’n gweld y ffenast, aeth bwrdd coffi drwyddi hi
ddown yn ôl
ddown yn ôl at y gwir
mr. heddwas, nei di wrando arna i?
‘dwi’n ymddiheuro am y llanast yn y tŷ
ga’ i holi am fy ffrind sydd yn y gell?
a geith o ddod yn ôl os ‘di o’n bihafio’n well?
ddown yn ôl
ddown yn ôl at y gwir
(cyfgan:)
tyrd yn ôl, yn ôl at dy goed
i weld y byd fel y mae heb dy frwdro
ddoi di’n ôl pan ddaw yr oed
i swatio’n glyd yn dy dŷ r’ôl dy grwydro?
oes ‘na dal angen chwyldro?
fel ti’n gweld ‘da ni’m yn gynnes nae yn glyd
ond dyma’n ffenast ni o ryddid ar y byd
er fod dy waith yn dod â heddwch lawr i’r dre
wrth i ni gallio fe ddaw eraill yn ein lle
ddown yn ôl
ddown yn ôl at y gwir
Random Lyrics
- fred waring & the pennsylvanians - the twelve days of christmas lyrics
- hương lan - bông cỏ may lyrics
- l’allemand - en pétard lyrics
- diverseddie - alone? lyrics
- pilvet pilvet - salaisuutes lyrics
- wild party - wait up lyrics
- simon a. (uk) - au ra lyrics
- popsicle - pale honey lyrics
- donaty - chino dale frito + ella no es mala lyrics
- tamp10 - sus lan y***m lyrics