cerys matthews - moliannwn lyrics
nawr ianciau rhoddwn glod
y mae’r gwanwyn wedi dod
y gaeaf a’r oerni a aeth heibio
daw’r coed i wisgo’u dail
a mwyniant mwyn yr haul
a’r ŵyn ar y dolydd i brancio
moliannwn oll yn llon
mae amser gwell i ddyfod + haleliwia
ac ar ôl y tywydd drwg
fe wnewn arian fel y mwg
mae arwyddion dymunol o’n blaenau
ffwl la la, ffwl la la, ffwl la la la la la la
ffwl la la, ffwl la la, ffwl la la la la la la
daw’r robin goch yn llon
i diwnio ar y fron
a cheiliog y rhedyn i ganu
a chawn glywed wiparwhîl
a llyffantod wrth y fil
o’r goedwig yn mwmian chwibanu
moliannwn oll yn llon
mae amser gwell i ddyfod + haleliwia
ac ar ôl y tywydd drwg
fe wnewn arian fel y mwg
mae arwyddion dymunol o’n blaenau
ffwl la la, ffwl la la, ffwl la la la la la la
ffwl la la, ffwl la la, ffwl la la la la la la
fe awn i lawr i’r dre
gwir ddedwydd fydd ein lle
a llawnder o ganu ac o ddawnsio
a chwmpeini nawr neu ddeg
o enethod glan a theg
lle mae mwyniant y byd yn disgleirio
moliannwn oll yn llon
mae amser gwell i ddyfod + haleliwia
ac ar ôl y tywydd drwg
fe wnewn arian fel y mwg
mae arwyddion dymunol o’n blaenau
ffwl la la, ffwl la la, ffwl la la la la la la
ffwl la la, ffwl la la, ffwl la la la la la la
ffwl la la, ffwl la la, ffwl la la la la la la
ffwl la la, ffwl la la, ffwl la la la la la la
Random Lyrics
- skiifuego - eirebby lyrics
- nerrves - sun's the drug lyrics
- stellar adepts - honor of the fallen in our hands lyrics
- en esch - sweet venus (demo) lyrics
- midnight red - take me home (spanglish version) lyrics
- lacabra (sa) - sala kanje lyrics
- roxie - its up lyrics
- 410 (fra) - rainbow lyrics
- latrelle - lo schianto lyrics
- bleood - pose fo da pic lyrics