dafydd iwan - yma o hyd lyrics
dwyt ti’m yn cofio macsen,
does neb yn ei nabod o;
mae mil a chwe chant o flynyddoedd
yn amser rhy hir i’r co’;
pan aeth magnus maximus o gymru
yn y flwyddyn tri-chant-wyth-tri,
a’n gadael yn genedl gyfan
a heddiw: wele ni!
[chorus]
ry’n ni yma o hyd,
ry’n ni yma o hyd,
er gwaetha pawb a phopeth,
er gwaetha pawb a phopeth
ry’n ni yma o hyd.
ry’n ni yma o hyd,
er gwaetha pawb a phopeth,
er gwaetha pawb a phopeth
ry’n ni yma o hyd.
chwythed y gwynt o’r dwyrain,
rhued y storm o’r môr,
hollted y mellt yr wybren
a gwaedded y daran encôr,
llifed dagrau’r gw-ngalon
a llyfed y taeog y llawr
er dued yw’r f-gddu o’n cwmpas
ry’n ni’n barod am doriad y wawr!
[chorus]
cofiwn i facsen wledig
adael ein gwlad yn un darn
a bloeddiwn gerbron y gwledydd
‘mi fyddwn yma tan ddydd y farn! ‘
er gwaetha pob dic sion dafydd,
er gwaetha ‘rhen f-gi a’i chriw
byddwn yma hyd ddiwedd amser
a bydd yr iaith gymraeg yn fyw!
[chorus]
Random Lyrics
- luca barbarossa - fortuna lyrics
- 5the ward boyz - bitch pleeze lyrics
- darin - i can see u girl lyrics
- nick black - something real lyrics
- gigliola cinquetti - pensieri di notte lyrics
- nick black - hollow lyrics
- luca barbarossa - piazza navona lyrics
- edoardo bennato - viva la guerra lyrics
- michael buble - down with love lyrics
- shazzy - kenapa lyrics