![azlyrics.biz](https://azlyrics.biz/assets/logo.png)
datblygu - am lyrics
am y geiriau cr+p fel cnapan
am yr eisteddfodau dafarn
am fy hun yn gwylio’r cloc
am yr harwch opera roc
am y grwpiau sy’ ar daith
am fy rhagfarnau’n mynd yn waeth
am y merched sa’i di cael
am y linell uchod wael
a dyma pam rwy’n smygu
ac yn ysgrifennu
ar fy ngwibdaith o gwmpas bwced
am y cr+p mewn dillad celf
am y dwli drama gerdd
am fod dawnsio mor uffernol
a jôc mawr yw pob dyfodol
sai’n gwybod pam rwy’n cario ‘mlaen
na, rwy’n gwybod pam rwy’n cario ‘mlaen
y gobaith o weld cantorion calon lân
yn cael eu toddi i saim
a dyma pam rwy’n smygu
ac yn ysgrifennu yn lle pydru
ar fy mordaith mewn bwced
am yr un nath sgrewio mair
am fod cymdeithas ond yn ffair
am eich cariadon ac am chi
am y profiadau sy’n fy ngladdu
sai’n gwybod pam rwy’n cario mlaen
na, rwy’n gwybod pam rwy’n cario mlaen
y gobaith o weld cantorion calon lân
yn cael eu toddi i saim
a dyma pam rwy’n smygu
ac yn ysgrifennu
ar fy ngwibdaith o gwmpas bwced
pob noson haf a melys
chwiliais am yr esgus
i adael rhai’n anadlu
Random Lyrics
- kash kyla - gimme a beat lyrics
- blue-eyed shamans - casino lyrics
- paypay (canada) - dance all night lyrics
- kheb - neptuno lyrics
- diorvsyou - breathe lyrics
- izayahmk - decatur lyrics
- the bevis frond - big black sky lyrics
- vanished in my dreams - someday i will begin to understand lyrics
- aborted - condemned to rot lyrics
- bogdi bi - boo nus lyrics