
ffa coffi pawb - pen yn y gwynt lyrics
prin, prin yn dy ddillad gwyn
trwy dy drwyn cymra lein o vim
mae’r byd yn anodd ac mae’r byd yn oer
heb fyw a chysgod gwyn yn dy boer
prin sidan i gysgu’n drwm
y teimlad esmwyth a breuddwydio dwfn
cur pen oedd cicio’r drych
ti’n eithaf tywyll ac yn hollol wych
ond yna pan ddaw’r wawr
a finau’n gorwedd ar y llawr
dwyt ti ddim yno, ti yn y gwynt
yn mynd yn gynt ac yn gynt
claf, claf dy gariadon gynt
heb drywydd i ddilyn eu hynt
dwi yma, dwi ddim ar goll
pam bod yn elyn?
yn lle ysgwyd i oll
wyt ti’n deall fy nheimladau i
at dy gymeriad melys di?
dwi’n teimlo weithiau pan ti yn mynd
fod y byd yn anodd iawn i mi heb ffrind
ond ar ôl i mi dy brofi di
yn wahanol i’th deimladau cryf
pam troi a diflannu
yn ôl i mewn i nghwmwl du i
efo dy ben yn y gwynt
Random Lyrics
- sayako - pain, inhermemory lyrics
- lil 404 - swag lyrics
- misterin & hope - câmbio, desligo! lyrics
- sicschich - endless winter lyrics
- potwash - attack the cat lyrics
- lisa mishra - teri hoon lyrics
- павел закиляк (pavel zakilyak) - небо в инее (sky in hoar) lyrics
- xglnd - x9 lyrics
- yurms - wordpuke lyrics
- bestiplayer999 - life of a chopper lyrics