
gruff rhys - chwyn chwyldroadol! lyrics
wei dwi’n achwyn achwyn achwyn am y
chwyn chwyldroadol sy’n dinistrio fy
ngardd
ond mae’n anodd cychwyn achwyn am
eu dail bendigedig sydd yn edrych mor
hardd
chwyn i rai + aur i eraill
shwn i rai + i fi ac eraill
adfer bro fy ngenedigath
drwy gerddoriaeth + gweledigaeth
tra dwin ceisio a phwysleisio
fod rhaid mynd i’r blwch pleidleisio
does dim taw ar fy nghwyn
fel cors heb y brwyn
a tra sudda ffin fy llodrau
does dim blodau ddigon bodlon
all droi ‘mylon fy ngheg
yn gryman fach deg
chwyn i rai + aur i eraill
shwn i rai + i fi ac eraill
adfer bro fy ngenedigath
drwy gerddoriaeth + rhwystredigaeth
pan ddaw tro ar fyd
fry o fewn y gwagle
troellwn yn ddidaro
mewn dirfodaeth drwyddi draw
chwyn i rai + aur i eraill
shwn i rai + i fi ac eraill
adfer bro fy ngenedigath
drwy gerddoriaeth + gweledigaeth
chwyn i rai + aur i eraill
shwn i rai + i fi ac eraill
adfer bro fy ngenedigath
drwy gerddoriaeth + profedigaeth
Random Lyrics
- лайтсаут (lights out! rus) - земля (earth) lyrics
- kz 969 - lune lyrics
- ned doheny - standfast lyrics
- eazy nolan - 1&1000 lyrics
- s.t.s. (aut) - geht's da guat lyrics
- yuno miles - take care lyrics
- 115hollowfied - sexually damaged lyrics
- 47tec - war in my head lyrics
- ecel - from the outside (demo) lyrics
- alfa punk - aeroflot lyrics