gwilym - teimlo'n well lyrics
[geiriau i ‘teimlo’n well’]
[pennill 1]
ydw i’n dy golli di, wrth sbïo ar y sgrin?
ganol drysfa tudalennau mewn magasîn
wyt i’n synnu am y bwriad s’genna i symud
ymlaen nawr, ymlaen nawr?
a ti’n deud mod i’n edrych ar fy ngorau
crib trwy dy wallt, dos i gamu mewn i’r golau
a dwi’n deud mod i’n ofni meddwl cymryd y straen, y straen
[cyn+gytgan]
ydw i’n troi’n ôl?
ydw i’n troi’n ôl ar fy hun?
[cytgan]
dwi’n gaddo awn ni’n bell
a gadael bob dim ar ôl
a gadael bob dim ar ô, ô, ô, ô+ôl
ac os dwi’n teimlo’n well
wna i adael bob dim ar ôl
wna i adael bob dim ar ô, ô, ôl
[pennill 2]
ydw i’n dy bechu di, trwy beidio chwalu’r sgrin?
ma’ ‘na sôn bod pethau’n gwella wrth ti groesi’r ffin
pam dwi’n gadael gyda cymaint wedi gosod o’m mlaen nawr, o’m mlaen nawr?
[cyn+gytgan]
ydw i’n troi’n ôl?
ydw i’n troi’n ôl ar fy hun?
[cytgan]
dwi’n gaddo awn ni’n bell
a gadael bob dim ar ôl
a gadael bob dim ar ô, ô, ô, ô+ôl
ac os dwi’n teimlo’n well
wna i adael bob dim ar ôl
wna i adael bob dim ar ô, ô, ôl
[pont]
dilyn y twrw
golau yn galw
trio gwneud enw
ar strydoedd y sylw
twrw’n distewi
golau yn pylu
ti’n atgyfodi dy fwriad
[pennill 3]
ti’n deud mod i’n edrych ar fy ngorau
crib trwy dy wallt, dos i gamu mewn i’r golau
a dwi’n dеud mod i’n ofni meddwl cymryd y straen, y straen
[cytgan]
dwi’n gaddo awn ni’n bеll
a gadael bob dim ar ôl
a gadael bob dim ar ô, ô, ô, ô+ôl
ac os dwi’n teimlo’n well
wna i adael bob dim ar ôl
wna i adael bob dim ar ô, ô, ôl
Random Lyrics
- king flekky - who’x your gai lyrics
- handy kush - хапаю (i smoke) lyrics
- don toliver - before we end it lyrics
- jimmy lee represents - they are like us lyrics
- jean paul medroa - taxi lyrics
- abbey lincoln - it’s me, o' lord (standin’ in the need of prayer) lyrics
- simi - messiah lyrics
- 88chiller - welcome home lyrics
- defa - park lyrics
- mission 101 - darling lyrics