
i fight lions - casanova lyrics
dio’m yn hogyn hud
dio’m yn unrhyw fath o ddewin
benzodiazepine sy’n troi dy ddwr i mewn i wîn
dim ei driciau
dio’m yn slic, na
fyddi di dal efo cleisiau
ar dy liniau
ond fyddi di’m yn cofio dim
fel llew ar ôl gazelle
mae o’n syllu yn frwdfrydig
ti’n gyfareddol ac yn ddel
mae o’n chwantus ac yn lwglyd
yn trio’i orau
gyda’i eiriau
i dy swyno di i’r laddfa
ti’n amlwg heb ddidddordeb
ond dio’m yn poeni dim
‘di o’m yn gasanova, na
chwerw yw ei chwarae
fel ti’n llithro mewn i’r coma
dio’m yn gasanova
nei di ddeffro efo cleisiau
a creithiau a haint ne ddau
o gwylia dy hun
ma’r sglyfaeth ma’n anelu
i gael chdi ar ben dy hun
i gael chdi yn ei wely
ac os ti’n anghytuno
ganddo ddulliau annymunol
i gael ei ffordd ei hun
a cariad, fyddi di’m yn cofio dim
Random Lyrics
- cavetown - banana bread (dear. version) lyrics
- penguins on a shelf - zyrtec10mg lyrics
- astronauts, etc. - up for grabs lyrics
- billy & shannon - king of soul lyrics
- lime cordiale - faceless cat lyrics
- yehan jehan - freaking out lyrics
- recca - un lamento lyrics
- stormy - giovani soldati lyrics
- ben thomas - nothing to lose lyrics
- iman - kyhu (keep your head up) lyrics