mared - pe bawn i'n rhydd lyrics
un foment, dyna’r oll
gymerodd i droi nol
a finne wedi meddwl swni’n rhydd
creu byd bach yn fy mhen
ond wir does gen ti’m clem
pa fath o fyd, sydd mond yn gudd drachefn
gwbo ‘mod i isho tyfu a just deu’ ‘tha ti
ond ma’n anodd pan mae’r celwydd di bodoli’n hir
pe bawn i’n rhydd
sa ti’n gweld rhyw ddydd
mai o dan y pridd mae’r geiriau’n deud y gwir
so eto, dyma fi
bron iawn a dal fy nhir
mor agos oedd y geiriau, arf y myw
bob tro dwi ar fin deud
amheuaeth sydd yn gwneud ei ffordd trwy fy ngwythiennau at y llyw
gwbo ‘mod i isho tyfu a just deu’ ‘tha ti
ond ma’n anodd pan mae’r celwydd di bodoli’n hir
pe bawn i’n rhydd
sa ti’n gweld rhyw ddydd
mai o dan y pridd mae’r geiriau’n deud y gwir
ddim yn siwr pryd ddaw yr amser
bodlon fyddai tan y pryd
adeiladu ar yr hyder
ryw ddydd nei di weld fi i gyd
Random Lyrics
- vamos - prezencja bez presji lyrics
- 名取香り (kaori natori) - gentleman lyrics
- akri - скурил (skuril) lyrics
- die by young - money sprint lyrics
- nami-teel - метонимия (metonymy) lyrics
- pankaj udhas - zindagi lyrics
- big big train - skates on lyrics
- total massacre - quiet part loud lyrics
- lacy notions - alone lyrics
- marluxiam - dad.wav lyrics