azlyrics.biz
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

rhys gwynfor - canolfan arddio lyrics

Loading...

[geiriau i ‘canolfan arddio’]

[pennill 1]
natho symud i’n stryd ni bump ne’ chwech drws lawr o’n ty ni
a dwi’n i weld o bob dydd am sgwrs bron iawn
nathi’m cymryd llawer i sylwi fod o’n un am odro stori
a’i fod o’n balwr clwydde’ heb ei ail
ac mae o’n deud

[cyn+gytgan]
does na’m un cornel o’r byd dwi’m di droedio
does dim dinas sydd yn ddiarth i mi
does na’m un lle dwi’m di bod ar fy nwgylie
dim un gwlad dwi’m di throedio na chroesi ei ffinie
a gweld sut ma pobol yn byw ar i glinie’
mewn cestyll a chytie pridd

[cytgan]
ond, heddiw fues i mewn canolfan arddio
fory dwi am fynd, mynd a’r plant i nofio
s’gena fo ddim plant na gardd ar ei eiddo
a tydio rioed di bod mewn canolfan arddio
mewn canolfan arddio

[pennill 2]
mae o’n son am yr hunan bwysigrwydd ti’n ei gael o godi cyn y wawr
fel bo’ ti di twyllo i dreulio diwrnod cudd cyn bo’ codi cwn caer
ond dwi di cerdded a drеifio heibio’i dy o a hynny’n fore cyn boi’n handi naw
ac allai ddeud hеfo llaw fawr ar fy nghalon fod o’n godwr anhygoel o wael
[cyn+gytgan]
ond pwy ydw i i farnu’r hen geiliog?
dwi’n bell o fod yn angel fy hun
ma’ mwy o fwynhad i’w gael o’i gelwydde’
mwy o ras, mwy o flas, mwy o holi cwestiyne’
na straeon cyfoedion am fynd ar i gwylie i draethau a gwestai crand

[cytgan]
ond, heddiw fues i mewn canolfan arddio
fory dwi am fynd, mynd a’r plant i nofio
s’gena fo ddim plant na gardd ar ei eiddo
a tydio rioed di bod mewn canolfan arddio
mewn canolfan arddio

[offerynnol]

[cytgan]
heddiw fues i mewn canolfan arddio
fory dwi am fynd, mynd a’r plant i nofio
s’gena fo ddim plant na gardd ar ei eiddo
a tydio rioed di bod mewn canolfan arddio



Random Lyrics

HOT LYRICS

Loading...