sobin a'r smaeliaid - meibion y fflam lyrics
mae rhywun yn rwla′n gwybod, tai yn rhad
mae rhywun yn rwla’n gwybod, croeso′n y wlad
dim cystadleuaeth leol am y lle
cymry yn gwyrhod mentro dyna chi be
a does ‘na neb yn gwybod dim yng ngolau dydd
‘na neb yn gwybod dim yng ngolau dydd
mae rhywun yn rwla′n gwybod, “tyddyn y gwynt”
mae rhywun yn rwla′n gwybod, sais gyda’i bunt
yn galw i fwrw sul yn y pasg a′r ha’
dianc o ′rwth y rat+race (nhw di’r pla)
ond toes na neb yn gwybod dim yng ngolau dydd
′na neb yn gwybod dim yng ngolau dydd
“gawn ni nhw’n diwadd” meddai awdurdod gwag
“helpa ni’u dal nhw bydd fradwyr dros dy wlad”
mae rhywun yn rwla′n gwybod, lawr yn dre
mae rhywun yn rwla′n gwybod, crimewatch uk
chwilio am foi efo traed mawr a côt law
drewi o betrol a matches yn ‘i law
ond toes na neb yn gwybod dim yng ngolau dydd
′na neb yn gwybod dim yng ngolau dydd
mae rhywun yn rwla’n gwybod, tad a mam
mae rhywun yn rwla′n gwybod, meibion y fflam
mae rhywun yn gwybod, ond neb am ddeud
mae rhywun yn gwybod, a rhywun ‘di gwneud
ond toes na neb yn gwybod dim yng ngolau dydd
′na neb yn gwybod dim yng ngolau dydd
“gawn ni nhw’n diwadd” meddai awdurdod gwag
“helpa ni’u dal nhw bydd fradwyr dros dy wlad”
mae rhywun yn rwla′n gwybod, tad a mam
mae rhywun yn rwla′n gwybod, meibion y fflam
mae rhywun yn gwybod, ond neb am ddeud
mae rhywun yn gwybod, a rhywun ‘di gwneud
ond toes na neb yn gwybod dim yng ngolau dydd
′na neb yn gwybod dim yng ngolau dydd
does na neb yn gwybod dim yng ngolau dydd
‘na neb yn gwybod dim yng ngolau dydd
Random Lyrics
- mobb deep - survival of the fittest oggsay lyrics
- marit bergman - today will be the day when mourning ends lyrics
- haranczykov - nominał (nie każdy brat miał tyle odwagi) lyrics
- cats who deal drugs - forever dancing lyrics
- chris larkin - ocd lyrics
- the driver era - you keep me up at night lyrics
- the chronicles of manimal and samara - waves lyrics
- whom gods destroy - crucifier lyrics
- максим рейн (maxim rain) - крики машин (screams of machines) lyrics
- tiësto & poppy baskcomb - drifting (wildstylez remix) lyrics