azlyrics.biz
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

sŵnami - bob yn un lyrics

Loading...

[geiriau i “bob yn un”]

cyn i’r llenni gau
cyn i’r drysau gau
gawn ni lithro nôl i pan doedd fory ddim yn bod

i gael teimlo’r ias
i gael cofio’r blas
gawn ni grwydro nôl i pan doedd fory ddim yn bod

achos un ar ôl un, da ni’n suddo’i lawr
ar ôl chwarae ein rhan ar yr olwyn fawr
bob yn un, da ni’n aros am rywbeth mwy
tra bo cysgod ddoe’n gallu agor creithiau’r cof
sy’n ein galw ni nôl, nôl
yn galw nôl i pan doedd fory ddim yn bod

y teimlad sy’n gyrru ti’n groes i’r graen
y curiad sy’n tynnu ti nôl a mlaen
yn nol i pan doedd fory ddim yn bod

achos un ar ôl un, da ni’n suddo’i lawr
ar ôl chwarae ein rhan yn y cynllun mawr
bob yn un, da ni’n aros am rywbeth mwy
tra bo cysgod ddoe’n dal i agor creithiau’r cof
a’i nôl, a’i nôl rhyd llwybrau ddoe
i agor creithiau’r cof
a’i nôl, a’i nôl rhyd llwybrau ddoe
i agor creithiau’r cof
yn nôl

drwy agor creithiau’r cof
gawn ni grwydro creithiau’r cof
drwy agor creithiau’r cof
gawn ni grwydro creithiau’r cof
drwy agor creithiau’r cof



Random Lyrics

HOT LYRICS

Loading...