the celtic tenors - suo gan lyrics
Loading...
huna blentyn ar fy mynwes
clyd a chynnes ydyw hon
breichiau mam sy’n dynn amdanat
cariad mam sy dan fy mron
ni cha’ dim amharu’th gyntun
ni wna undyn â thi gam
huna’n dawel annwyl blentyn
huna’n fwyn ar fron dy fam
huna’n dawel heno, huna
huna’n fwyn, y tlws ei lun
pam yr wyt yn awr yn gwenu
gwenu’n dirion yn dy hun
ai angylion fry sy’n gwenu
arnat ti yn gwenu’n llon
tithau’n gwenu’n ôl dan huno
huno’n dawel ar fy mron
paid ag ofni, dim ond deilen
gura gura ar y ddôr
paid ag ofni, ton fach unig
sua, sua ar lan y môr
huna blentyn, nid oes yma
ddim i roddi iti fraw
gwena’n dawel yn fy mynwes
ar yr engyl gwynion draw
Random Lyrics
- dabin - wmp freestyle lyrics
- the garages - outfield lyrics
- gen neo - called it love (sped up) lyrics
- tropes - only hook lyrics
- maria howell - please understand lyrics
- feest dj maarten - hoe lang is een chinees lyrics
- k8maffin - не спать (don't sleep) lyrics
- yungwin - wake up lyrics
- baba shrimps - pick up the phone lyrics
- crizin da z.o. - demônio do rio da prata lyrics