azlyrics.biz
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

y cyrff - hwyl fawr heulwen lyrics

Loading...

o mam, dwi lawr, dwi’n sal, dwi’n brifo
nes i pob camgymeriad yn y llyfr
pam nes di’m rhybuddio?
plîs neu di adael fi egluro
mae bywyd jyst yn ffordd o farw’n ara deg

o mam, dwi’n wan, ond pryd nath hi ddod
o ni’n sefyll ar ysgwyddau dyn tala’r byd
jyst fel breuddwyd
mae genai llond llyfr o esgusion
ond jyst pryd o ni’n meddwl bod fi heb fy nail
collddail, collddail

jyst pryd o ni’n meddwl bod fi heb fy nail
jyst pryd o ni’n meddwl bod fi ddim yn collddail

cipolwg ges i, cipolwg ges i
ond ges i ddim ei chyffwrdd
cipolwg o’r wobr
ges i ddim ei chyffwrdd
hwyl fawr heulwen
dwi bron a marw isho byw

mae ddoe yn ddoe a heddiw sy’n cyfrif
ac os nei di ganolbwyntio
hen bryd i ti atgyfodi
mae ddoe yn ddoe a heddiw sy’n cyfrif
ac os nei di ganolbwyntio
hen bryd am yr atgyfodi

jyst pryd o ni’n meddwl bod fi heb fy nail
jyst pryd o ni’n meddwl bod fi ddim yn collddail

cipolwg ges i, cipolwg ges i
ond ges i ddim ei chyffwrdd
cipolwg o’r wobr
ges i ddim ei chyffwrdd
hwyl fawr heulwen
dwi bron a marw isho byw

ddrwg gen i
cyn i ti siarad o ni’n crynu yn barod (fi bia hawlfraint tristwch)
cyn i ti wenu oedd y nos ar fy mhen i
methu gael hyd i’r lleisiau
cyn i ti siarad o ni’n crynu yn barod (fi bia hawlfraint tristwch)
cyn i ti wenu oedd y nos ar fy mhen i
methu dod o hyd i’r geiriau
cyn i ti wenu oedd y nos ar fy mhen i

ond nes di ddim gadael fi ddweud
hwyl fawr heulwen
pam nes di ddim gadael fi ddweud
hwyl fawr heulwen
hwyl fawr heulwen
hwyl fawr heulwen
dwi bron a marw isho byw
dwi bron a marw
dwi bron a marw isho byw



Random Lyrics

HOT LYRICS

Loading...