bendith – danybanc lyrics
Loading...
mae’r hen le wedi mynd yn llai
neb ar ol ond un neu ddau
gorfod derbyn taw fel ‘na mae +
un drws yn agor, y llall yn cau
rwy’n cofio pan
o’n ni yn blant
yn chwarae lawr
yn danybanc
gorwedd lawr a breuddwydio
ar y porfa wrth yr hen bont
a swn y dwr yn rhedeg dano
ambell i gar yn gyrru heibio
rwy’n cofio pan
o’n ni yn blant
yn chwarae lawr
ar bwys y nant
y dyddiau pan
o’n ni yn fach
yn chwarae lawr
yn danybanc
atgofion cynnes yn fy nghalon
o’m hoff lefydd a’m hoff bobol
darnau’r blanced o’r gorffennol
amdanai’n dynn am y dyfodol
rwy’n cofio pan
o’n ni yn blant
yn chwarae lawr
ar bwys y nant
y dyddiau pan
o’n ni yn fach
yn chwarae lawr
yn danybanc
y dyddiau pan
o’n ni yn fach
yn chwarae lawr
yn danybanc
Random Lyrics
- the daily pravda – become invisible lyrics
- baitkid – r.r lyrics
- joy. – waterfalls lyrics
- autumn! – cant be serious! (original) lyrics
- big kwam – timeless pieces lyrics
- jehnny beth – heroine lyrics
- rafael arawi – el juego lyrics
- eleianet – where are you? lyrics
- truse tarzan – fakkboi (on sight 2020) lyrics
- ghosty – not baby talk lyrics