caryl parry jones – pan ddaw yfory lyrics
[geiriau i “pan ddaw yfory”]
neithiwr wrth dy ymyl
doedd amser ddim yn bod
bod efo’n gilydd oedd yn bwysig
a chariad oedd y nod
ond heno tyrd i ‘mreichiau
cyn i ni dynnu’r llen
a gad i ni obeithio
na ddaw’r noson fyth i ben
ond pan ddaw yfory
rhaid dweud ffarwél
a rhoi pob dim yn ôl
yn ôl i’r gorffenol, a duw a wŷr
pwy oedd fwya ffôl
gwn ai camgymeriad
oedd gafael ynot ti
ac fe wyddon ni o’r cychwyn
nad oedd gwawr i’n cariad ni
a phan ddaw yfory
rhaid dweud ffarwél
a rhoi pob dim yn ôl
yn ôl i’r gorffenol, a duw a wŷr
pwy oedd fwya ffôl
hwn yw’r heno olaf
cyn hir fe dŷr y wawr
felly rho i’n dy dynerwch
i machlud ni sy’n awr
a phan ddaw yfory
paid dweud ffarwél
a rhoi pob dim yn ôl
yn ôl i’r gorffenol, a duw a wŷr
pwy oedd fwya ffôl
pwy oedd fwya ffôl
Random Lyrics
- mishovy silenosti – minecraft song lyrics
- biz levin – checkers lyrics
- kai – wish lyrics
- baelondra – missing pieces lyrics
- trey westbrook – the way she is lyrics
- gridlockd – i’ll be alright (remix) lyrics
- asomniatic – manhattan project lyrics
- lily talmers – middle of america lyrics
- lit killah – stress lyrics
- javier cali – ¿cuánto tiempo? lyrics