cerys matthews – myfanwy lyrics
paham mae dicter, o myfanwy
yn llenwi’th lygaid duon di?
a’th ruddiau tirion, o myfanwy
heb wrido wrth fy ngweled i?
pa le mae’r wên oedd ar dy wefus
fu’n cynnau ‘nghariad ffyddlon ffôl?
pa le mae sain dy eiriau melys
fu’n denu’n nghalon ar dy ôl?
pa beth a wneuthum, o myfanwy
i haeddu gwg dy ddwyrudd hardd?
ai chwarae oeddit, o myfanwy
â thanau euraidd serch dy fardd?
wyt eiddo im drwy gywir amod
ai gormod cadw’th air i mi?
ni cheisiaf fyth mo’th law, myfanwy
heb gael dy galon gyda hi
myfanwy boed yr holl o’th fywyd
dan heulwen ddisglair canol dydd
a boed i rosyn gwridog iechyd
i ddawnsio ganmlwydd ar dy rudd
anghofia’r oll o’th addewidion
a wneist i rywun, ‘ngeneth ddel
a dyro’th law, myfanwy dirion
i ddim ond dweud y gair “ffarwél”
Random Lyrics
- frosti – 1996 lyrics
- phildel – child of the meadow lyrics
- leon thomas iii – crash & burn (remix) lyrics
- the pure – vibin lyrics
- mahan bahramkhan – soghoot azad lyrics
- riff raff – robot stud lyrics
- pe$o pete – kaido diss* lyrics
- ys1 – nysgjerrig lyrics
- anne martina – my bad lyrics
- nero – bisøus lyrics