datblygu – cerdd(or)iaith lyrics
cerdd o’r iaith
sŵn gemau pêl heb llawer o ddychymyg
hen gân max boyce, sdim aria nac emyn
dim ond sŵn cyd+ganu o’r cegau di+ymdrech
cefnogwyr un+donog y scarlets a’r elyrch
ac mae’r radio yn chwarae ysbryd y nos
drosodd a drosodd a drosodd a drosodd
efo edward h. dafis, mae unwaith yn ormod
a sai am fod yn fod yn dyst i esgyrn yn canu emynau
am fywyd tragwyddol ar ôl eu beddau
maent am tocynnau cwbl hunanol i’r nefoedd
neu cymrwch sioe dalent heb talent
sy’n boblogaidd gan y cyhoedd
diffyg unrhyw sbarc reit lawr y blynyddoedd
a tu mewn fi casineb, sy’n gwbl gwrthrychol
am alun hdodinott, a ffycin glastonbury
miwsig gwael yn y cefndir ble bynnag chi’n mynd i
yn llygru eich meddwl ar draws y tonfeddau
er enghraifft, y cachu ar radcliffe a maconie
rhowch i mi john lydon yn canu only the lonely
sut mae’r rheolwyr a’r djs yn gallu cyfiawnhau eu cyflog pan maent yn darparu cyfog?
Random Lyrics
- david deambulante – una aventura lyrics
- haley joelle – la lyrics
- journiie – timeless lyrics
- chuckyy – nike tech lyrics
- theprinceofnc – cease to love lyrics
- morad, beny jr & rvfv – lo que tiene lyrics
- tyler nicholas casey – opps lyrics
- noeli – amor grande lyrics
- girl named tom – get a little lost lyrics
- maflint – кометы lyrics