datblygu – gwlad ar fy nghefn lyrics
maes eisteddfod anhysbys
vd ar werth yn y maes pebyll
byddwch slebog cyn bod yn priod
a cymrwch asid cyn bod yn athro
ac rwy’n teimlo fel cymdeithas yr iaith
neu dyn dall yn chwilio am waith
ac mae pob cliche’n faith
ac mae cerdded un cam gormod fel taith
ac mae byw yng nghymru
run peth â syllu ar y paent yn sychu
ar y gwair yn tyfu
byw yng nghymru
‘run peth â syllu ar y paent yn sychu
ar y gwair yn tyfu lan
dydd sul blin ym mhen llŷn
ac mae pync yn cuddio ar gornel
cr+p apel y capel
ond mae eu seidr yn surach na’r beibl
o cadwch talwrn y beirdd
ym magiau plastig y taeau llydan
dyw nhw byth yn gwrthod brechdan
ac mae nhw’n chwerthin pan mae pawb arall yn
byw yng nghymru
run peth â syllu ar y paent yn sychu
ar y gwair yn tyfu
byw yng nghymru
‘run peth â syllu ar y paent yn sychu
ar y gwair yn tyfu lan
rhifyn noson lawen
gormodaeth o deisennau menyn
ehangiad o’r orsedd a’r hyn
pob dinasydd gwledig yn sugno ei laswellt
byw yng nghymru
run peth â syllu ar y paent yn sychu
ar y gwair yn tyfu lan
tyfwch lan
Random Lyrics
- christ dillinger – trippin lyrics
- убей меня, эйс! (kill me, ace!) – хиросима (hiroshima) lyrics
- nikowoodyear – back .! lyrics
- vuitton – out tha mud lyrics
- francuz mordo – drill freestyle lyrics
- miami yacine & nash – für die kamera lyrics
- y o u n g (rapper) – illuminate lyrics
- a.chal – around lyrics
- jeremy jordan, eva noblezada – for her/my green light – the great gatsby lyrics
- bleak – my body is not where i belong lyrics