azlyrics.biz
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

i fight lions – llwch ar yr aelwyd lyrics

Loading...

y llwch ar yr aelwyd
yn gorchuddio y lluniau di+liw
daliwyd profiadau, eiliadau a fu

lle bu chwerthin â chyfeillion triw

mae’r gwir yn treiddio i’r cof
nid yw’r hen wên gyfarwydd fyth am ddod yn ôl

o ma ‘na rywbeth o’i le
y gwacter yn y gadair, yr oerni lle roedd gwres
‘di’r lle ma ddim ‘r’un fath
unwaith yn gartref clyd, nawr yn gragen wag
‘di’r lle ma ddim ‘r’un fath
hebdda chdi

llyfrau nodiadau
llawn caneuon heb eu cwblhau
y llenni ar gau, ond mae mymryn o haul
yn taflu golau ‘r y llwch yn yr aer

mae’r gwir yn treiddio i’r cof
yn d’absenoldeb, dim ond yr atgof sydd ar ôl

o ma ‘na rywbeth o’i le
y gwacter yn y gadair, yr oerni lle roedd gwres
‘di’r lle ma ddim ‘r’un fath
unwaith yn gartref clyd, nawr yn gragen wag
‘di’r lle ma ddim ‘r’un fath
hebdda chdi

mae’r gwir yn treiddio’n ddyfn i’r cof
nid yw’r hen wên gyfarwydd fyth am ddod yn ôl
mae’r gwir yn treiddio’n ddyfn i’r cof
yn d’absenoldeb, dim ond yr atgof sydd ar ôl



Random Lyrics

HOT LYRICS

Loading...