mellt – marconi lyrics
dyma esgus i ddechrau o′r diwedd
diolch am eich amynedd
ar y cyd, natho ni golli ein cydwybod
ond creda fi, mae ‘na bethe smo ni′n gwybod
mae’n amser symud mynyddoedd
o dan y straen ti’n cario ′mlaen
o dan y paent dwi′n gweld y graen
ac yn y gofod pell fydd llais marconi’n mynd am byth
o wel, cwympodd y byd o′i echel
ffarwel, mae’n edrych fel
hwyl fawr, i hanes y canrifoedd
iechyd da i chwi yn awr ac yn oesoedd
mae′n amser symud mynyddoedd
o dan y straen ti’n cario ′mlaen
o dan y paent dwi’n gweld y graen
ac yn y gofod pell fydd llais marconi’n mynd
o dan yr haul ni′n dal ymlaen
fel pryfed bach o dan y dail
ac yn y gofod pell fydd llais marconi′n mynd am byth
o dan y straen ti’n cario ′mlaen
o dan y paent dwi’n gweld y graen
ac yn y gofod pell fydd llais marconi′n mynd
o dan dy draed mae gwres y craidd
yn tynnu’r lleuad at ei chwaer
ac yn y gofod pell fydd llais marconi′n mynd am byth
Random Lyrics
- nics – johnny brown’s story lyrics
- bani – באני – yeled hara – ילד חרא lyrics
- tajon the asian – never trust your friends lyrics
- villabanks – c’est la vie lyrics
- june freedom – zanzi lyrics
- ihat3ho3$ – love ᐸ3 lyrics
- g the johnson – another ambitious asshole 3 lyrics
- eloy de jong – der wind der meine flügel trägt lyrics
- naixys – выдохну (exhale) lyrics
- malxfickid – s3fx (с3эфикс) lyrics