sŵnami – llwybrau lyrics
[geiriau i “llwybrau”]
[pennill 1]
pen yn llawn o obeithion, addewidion gwag
sy’n treiddio lawr i’r gwaelodion lle mae’r gwir yn taro
daw’r cyfle nôl (ti’n mynnu)
daw’r amser yn ôl (at hynna ti’n caru)
daw’r cyfle nôl (ti’n mynnu)
daw’r amser yn ôl
[corws]
ti’n gofyn y cwestiynau mawr
sy’n dy arwain di at yr ymylon
chwilio am yr atebion
disgwyl am y golau i ddangos y ffordd
ond ti dal yn y cysgodion
yn aros am yr atebion
[pennill 2]
oriau hir yn gwastraffu, yn galaru
am y freuddwyd hud sy’n diflannu, sydd yn brysur chwalu
daw’r cyfle nôl (ti’n annelu)
daw’r amser yn ôl (ond ti’n methu)
daw’r cyfle nôl (ti’n annelu)
daw’r amser yn ôl
[corws]
ti’n gofyn y cwestiynau mawr
sy’n dy arwain di at yr ymylon
chwilio am yr atebion
disgwyl am y golau i ddangos y ffordd
ond ti dal yn y cysgodion
yn aros am yr atebion
yn aros am yr atebion
[pont]
byw heb herio’r llif
de yw’r llwybr clir
sy’n arwain y ffordd o’r du
ond llonydd wyt o hyd
[corws]
ti’n gofyn y cwestiynau mawr
sy’n dy arwain di at yr ymylon
chwilio am yr atebion
disgwyl am y golau i ddangos y ffordd
ond ti dal yn y cysgodion
yn aros am yr atebion
Random Lyrics
- reflectorez – te veo lyrics
- briannah keeton – i fell for you lyrics
- 8485 – purgatory lyrics
- mel tormé – the surrey with the fringe on top lyrics
- trung tự – mình đến với nhau lyrics
- adorned brood – a war poem lyrics
- sotajumala – sinun virtesi lyrics
- wicca phase springs eternal, zubin & parv0 – i don’t want to fall in love lyrics
- стереокобра (stereocobra) – волна (wave) lyrics
- jay’ed – here i stand lyrics