azlyrics.biz
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

huw chiswell – y cwm lyrics

Loading...

y cwm – lyrics
wel shwd mae yr hen frind?
mae’n braf cael dy weld di gartref fel hyn
dyn ni ddim wedi cwrdd
ers i ti hel dy bac
a rhedeg i ffwrdd

a rwy’n cofio nawr

o ni’n meddwl bo ni’n fechgyn mawr
cerdded gyda’n tadau

y llwybr hir ir pylle
o_____ la la la la
‘sneb yn sicr o’r gwir
pa’am i ti fynd, a thorri’r mor glir
mae rhai wedi son
fod y cwm yn rhy gul i fachgen fel sion
wyt ti’n cofio’r tro?
ar lethre’r glo
sgathru’r i’n gliniau
wrth ddringo am y gorau
o_____ la la la la

cytgan

y graig yn sownd o dan ein traed
a chariad at y cwm yn berwi yn ein gwaed
y craig yn swndo dan ein traed
a chariad at y cwm yn berwi yn ein gwaed

o fe fu newid mawr
ers iddi nhw gau yr holl bylle na lawr
fel y gweli di hun
does dim nawr i ddal y bois rhag y ffin

a pethe wedi magu blas
am rhagor o awyr las
ond rwy’n credu taw ti oedd y cyntaf i weld
y tywydd ar ein gorwel

o la la la la

cytgan



Random Lyrics

HOT LYRICS

Loading...